Yr Eglwys Geltaidd

Croes Geltaidd gynnar yn Inis Mór, Iwerddon.

Enw ar Gristnogaeth y mileniwm cyntaf yn y gwledydd lle siaredid yr ieithoedd Celtaidd yw'r Eglwys Geltaidd. Defnyddir i gyfeirio at yr eglwysi yng ngwledydd y Gaeliaid (Iwerddon, yr Alban ac Ynys Manaw) a'r Brythoniaid (Cymru, Cernyw a Llydaw).

Sefydlwyd yr eglwysi cyntaf yn Ynysoedd Prydain ac Iwerddon yn yr 2g neu'r 3g, yn y cyfnod cyn Cyngor Cyntaf Nicaea a elwir oes yr Eglwys Fore, ac ymledodd y ffydd yn sgil Cristioneiddio'r Ymerodraeth Rufeinig. Er i gwymp y Rhufeiniaid arwain at ddyfodiad i baganiaeth mewn rhannau eraill Ewrop, goroesodd Gristnogaeth ym Mhrydain ac Iwerddon yn yr Oesoedd Canol Cynnar.

Defnyddid y term "yr Eglwys Geltaidd" yn gyntaf gan William Salesbury yn yr 16g, a mynnai Salesbury, yr Esgob Richard Davies, a Phrotestaniaid eraill wrthgyferbynnu purdeb yr Eglwys Fore yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon ag amhurdeb gweddill y byd Cristnogol. Roedd eu dadleuon dros fodolaeth yr Eglwys Geltaidd yn pwysleisio fod cynseiliau'r Diwygiad Protestanaidd yn yr eglwysi a fodolai yn y gwledydd hyn cyn y gyfundrefn Rufeinig.

Mynn rhai ysgolheigion nad oedd y fath beth yn bodoli, ond fod nifer o nodweddion yn gyffredin rhwng y gwledydd Celtaidd, nad oedd ar gael yn unman arall nac o fewn yr Eglwys Gatholig Rufeinig. Daeth pobl o wahanol enwad i ddefnyddio'r term, gan gynnwys Nora Chadwick, Kenneth Jackson a Caitlin Corning, a thyfodd ei boblogrwydd gan grwpiau a ddymunai weld y "teulu Celtaidd" yn un. Ar y llaw arall, ceir dadleuwyr cryf yn erbyn bodolaeth eglwys Geltaidd gan nifer o Saeson, a gwell ganddynt yw defnyddio'r term Insular Christianity yn hytrach na Celtic Church. Y term Almaeneg am yr Eglwys Geltaidd yw Iroschottisch, hynny yw Gwyddelig-Albanaidd. Mae'r rhan fwyaf o academyddion, bellach, yn gytun nad oedd yr Eglwys Geltaidd yn endid fonolithig, gwrth-Babyddol, ond yn hytrach fod gan yr eglwysi yn yr ardaloedd Celtaidd eu hiaith gysylltiad clos â'i gilydd, a nifer o draddodiadau neu nodweddion gwahanol iawn i Rufain.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search